1 Peter 3:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A hynny trwy vfuddtra a chwrteisrwyd, a’ chenych cydwybod dda, mal y gallo y rrai a ddoyto yn ych erbyn megis yn erbyn rrai drwc, quilyddio, rrain a feiant ar ych dayonys ymwreddiad yn‐Christ. Yr Epistol ar nos Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sy’n goganu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y’ch gogenir y cywilyddier y rhai sy’n cyhuddo ar gam eich rhodiad da chwi yng Nghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio'r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy'n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi'n byw bywydau mor dda fel Cristnogion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan gadw eich cydwybod yn ln; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr gydag addfwynder ac ofn; a chennych gydwybod dda; fel, yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sydd yn sarhâu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.