1 Peter 3:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Christ hevyd vnwaith a ddioddefodd tros pechoday, y cyfion tros yr anghyfion, mal y galle yn dwyn ni at Ddyw, ac a gavas marfolaeth yn y cnawd, eithr a fywhawyd yn yr yspryd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ddioddef o honoch, na phan yn gwneuthur drwg; canys Crist hefyd un waith am byth am bechodau a ddioddefodd, un cyfiawn er anghyfiawnion, fel y’n dygai ni at Dduw, wedi Ei farwolaethu yn wir yn y cnawd, ond Ei fywhau yn yr yspryd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd bu Crist hefyd farw unwaith am bechodau, y cyfiawn dros rai anghyfiawn, fel y dygai chwi at Dduw, wedi ei wneuthur yn farw yn y cnawd, ond ei fywhau yn yr ysbryd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Meseia wedi dioddef trwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o'i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Crist hefyd unwaith am byth a ddyoddefodd am bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei roddi i farwolaeth yn y cnawd, ond ei fywhâu yn yr yspryd;