1 Peter 3:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gynt yn anvfydd hwynt, pan vnwaith y ðoeð hir ymynedd Dyw yn discwyl yn‐dyddiay Noe, pan ddarparheid yr arch, yn yr hon ychydig ion, ysef yw, wyth enaid a achubwyd yn y dwfr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai fuant anufudd gynt pan ddisgwyliai hir-ymaros Duw yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, i’r hon ychydig, hyny yw, wyth enaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a fu’n anufudd gynt pan ddisgwyliai hir amynedd Duw wrthynt yn nyddiau Noa tra adeiledid yr arch, i’r hon yr achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddwfr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu'r llong fawr, sef yr arch. A criw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddu373?r,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai a fuont gynt yn anufudd, pan ddisgwyliai hir‐amynedd Duw yn nyddiau Noah, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.