1 Peter 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr dyn dirgeledic y galon, bid dihalawc, ac ysbryd esmwyth llonydd, rrwn sydd fawr eu bris gar bron Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr cuddiedig ddyn y galon, yn yr anllygradwy addurniad o’r yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra-gwerthfawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr dirgel ddyn y galon yn niwyg anllygradwy ysbryd addfwyn a thawel, y sydd yng ngolwg Duw o ddirfawr werth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth sy'n bwysig ydy'r hyn ydych chi'r tu mewn — y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy'n werthfawr yng ngolwg Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond cymeriad cl y galon a'i degwch di-dranc, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna sy'n werthfawr yng ngolwg Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr cuddiedig ddyn y galon, yn addurniad anllygredig yr yspryd addfwyn a thawel, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr.