1 Peter 3:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis ir vfuddhaodd Sara y Abraham, can y alw ef yn Arglwydd: merched yr hon fyðwchi, o wneuthyr yn dda, heb arnoch ofn dim dychryn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bu i Sarah ufuddhau i Abraham, ac “Arglwydd” y’i galwai ef; i’r hon y’ch gwnaed yn blant, gan wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni neb rhyw arswyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis yr oedd Sara yn ufudd i Abram, a’i alw ef yn arglwydd, i’r hon y daethoch yn blant wrth wneuthur da a heb ofni dim dychryn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw'n ‛meistr‛.) Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a peidiwch bod ofn dim byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel yr ufuddhaodd Sara i Abraham a'i alw'n arglwydd. A phlant iddi hi ydych chwi, os daliwch ati i wneud daioni, heb ofni dim oll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
megys yr ufuddhaodd Sarah i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd, plant i'r hon y'ch gwnaed trwy wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni unrhyw arswyd.