1 Peter 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwithau y gwyr, yr vn ffunyd, cydgyfanheddwch ac wynt mal y gwedday i rai gwybodol, can roði anrrydedd ir wraic, megis ir llestr gwānaf, mal y rrai sy hevyd cydetifeddion gras y bowyd, rrac rrwystro ych gweddiay‐chwi. Yr Epistol y v. Sul gwedy Trintot
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y gwŷr, yr un ffunud, byddwch yn cyd-drigo â’ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi i’r llestr menywaidd, megis yn wannach, anrhydedd; megis hefyd yn gyd-etifeddion gras y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y gwŷr, yr un modd, yn cyd-fyw â’r wraig yn ddeallus, megis â gwannach llestr, a rhoddi parch megis i rai sydd hwythau’n gyd-etifeddion gras bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Agwedd felly ddylai fod gynnoch chi wŷr hefyd. Dylech feddwl bob amser am les eich gwragedd, a'u parchu nhw a gofalu amdanyn nhw. Y wraig ydy'r partner gwannaf yn gorfforol, ond mae'n rhaid cofio eich bod chi'ch dau yn rhannu'r bywyd mae Duw wedi ei roi mor hael. Os na wnewch chi hyn fydd Duw ddim yn gwrando ar eich gweddïau chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un modd, chwi wu375?r, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddau mo'u rhwystro.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gwŷr, yr un modd, cyd‐drigwch â'ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi anrhydedd i'r wraig, megys i'r llestr gwannaf, megys hefyd yn gyd‐etifeddion grâs y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.