1 Peter 3:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am benn hyn, byddwch bawb or vn meddwl, yn cydoddau pawb gidau gilidd: cerwch fal brodyr: byddvvch yn drugawg: byddvvch yn gwrtais.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn olaf, yr oll o honoch, byddwch yn unfryd, yn cyd-ymdeimlo, yn caru’r brodyr, yn drugarogion, yn ostyngedig, nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn olaf, boed pawb yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn frawdol, yn dynergalon, yn ostyngedig,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â'ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda'ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo 'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn olaf, byddwch oll yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn caru'r frawdoliaeth, yn dosturiol, yn ostyngedig,