1 Peter 3:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid yn talu drwc tros drwc, neu ddirmic tros dirmic: namyn elchwyl bendithiwch, gan wybod ych galw y hyn, sef y freinior fendith o etifeddiaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond, yngwrthwyneb, yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd, fel mai bendith yr etifeddech.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid yn talu’n ôl ddrwg am ddrwg, neu sen am sen, eithr i’r gwrthwyneb yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd fel yr etifeddoch fendith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch talu'r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi eich enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw er mwyn i chwi etifeddu bendith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yng ngwrthwyneb, yn bendithio, gan i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.