1 Peter 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pawb megis ac y cafas rodd, byddet iddo eu chyfrannu ay gilidd, mal dayonys stiwardiaid am ryw ras Dyw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bu i bob un dderbyn rhodd, gan ei gweinyddu o honoch yn eich plith eich hunain, megis disdeiniaid da o amryw ras Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Megis y derbyniodd pob un ddawn, gweinyddwch honno y naill i’r llall megis goruchwylwyr da ar ras amryfal Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â'ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn l fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y derbyniodd pob un rodd yn ei gweinyddu ym mhlith eich gilydd, fel goruchwylwyr da amrywiol râs Duw.