1 Peter 4:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Os dowaid neb, dyvvedet megis gair Dyw. Os gweini a wna neb gvvnaed hynny megis or gallu y may Dyw yn i roddi, mal y molianner Dyw ymhob peth trwy Iesu Christ, ir hwn y may gogoniant, ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
os yw neb yn llefaru, megis yn llefaru oraclau Duw; os yw neb yn gweinyddu, megis yn gweinyddu o’r gallu a finistrir gan Dduw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i’r Hwn y mae’r gogoniant a’r arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb sy’n llefaru, llefared megis oraclau Duw. Y neb sy’n gweinyddu, gweinydded megis o’r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhopeth y gogonedder Duw drwy Iesu Grist, i’r hwn y mae’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i'r hwn y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a'i addoli drwy'r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau'r anrhydedd i gyd, a'r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw neb yn llefaru, llefared megys oraclau Duw; os yw neb yn gweini, gwnaed megys o'r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y mae y gogoniant a'r cadernid yn oes oesoedd. Amen.