1 Peter 4:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Caredigion, na fid chwith cenych y praw sy arnoch trwy dan, rrwn a wneid ir profedigaeth ywch, val pe digwydday ywch ryw beth dierth:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, na synnwch wrth y profiad tanllyd sy’n codi yn eich plith fel pe bai peth dieithr yn digwydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Anwyliaid, na ryfeddwch am y llosgfa yn eich mysg a ddaeth er prawf arnoch, fel petai rhywbeth rhyfedd yn syrthio i’ch rhan,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd trwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, peidiwch rhyfeddu at y prawf tanllyd sydd ar waith yn eich plith, fel petai rhywbeth rhyfedd yn digwydd ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, na synnwch wrth y prawf tanllyd sydd yn eich plith, er eich profi, fel pe bai peth dyeithr yn dygwydd i chwi;