1 Peter 4:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr llawenhewch, can ych bod chwi yn gyfrannoc ar g oddefiaday Christ, mal y galloth pan eglurer y ogoniant ef, fod yn llawen ac yn hyfryd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr cymmaint ag yr ydych yn gyfrannogion o ddioddefiadau Crist, llawenychwch, fel yn natguddiad Ei ogoniant y llawenychoch dan orfoleddu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr llawenhewch gan eich bod yn cyfranogi yn nioddefiadau Crist, fel y llawenychoch ac y gorfoleddoch yn natguddiad ei ogoniant ef hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr llawenhewch, yn gymaint â'ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e'n dod i'r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hytrach, yn l maint eich cyfran yn nioddefiadau Crist llawenhewch, er mwyn ichwi allu llawenhau hefyd, a gorfoleddu, pan ddatguddir ei ogoniant ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr gymaint ag yr ydych yn cyfranogi o ddyoddefiadau Crist, llawenhêwch, fel yn Nadguddiad ei Ogoniant y llawenhêwch gan orfoleddu.