1 Peter 4:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Os dirmygir chwi er mvvyn Enw Christ, dedwydd ydych: cans yspryd y gogoniant, ac (yspryt Dyw a orphwysa arnoch: rrwn ar y rran hwynt a gayff anair: ac ar ych rran chwi a foliennir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os gwarthruddir chwi ag enw Crist, dedwydd ydych, canys, Yspryd y gogoniant ac Yspryd Duw, arnoch chwi y mae yn gorphwys;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os gwaradwyddir chwi o achos enw Crist, gwyn eich byd, gan fod ysbryd y gogoniant ac ysbryd Duw yn gorffwys arnoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os gwaradwyddir chwi oherwydd enw Crist, gwyn eich byd, o achos y mae Ysbryd y gogoniant, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os difenwir chwi am enw Crist, gwyn eich byd, canys y mae Yspryd y Gogoniant, ië, Yspryd Duw, yn gorphwys arnoch.