1 Peter 4:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr na fid i neb o honoch oddef advyd mal llofrydd‐celain, neu leidr, neu ddrygwas, neu fal vn a vo yn ymyrreth a materion rrai eraill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys na fydded i neb o honoch ddioddef megis llofrudd neu leidr, neu ddrwg-weithredwr, neu megis arall-arolygwr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr neu ymyrrwr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai neb ohonoch chi ddioddef am fod yn llofrudd neu'n lleidr neu am gyflawni rhyw drosedd arall — na hyd yn oed am fusnesa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddylai neb ohonoch ddioddef fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr, neu fel dyn busneslyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg‐weithredwr, neu ymyrrwr â materion pobl eraill: