1 Peter 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr os dyoddef neb megis cristion, na fid quilidd cantho, namyn molianned Ddyw yn hynny o ran.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os megis Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr os fel Cristion, na chywilyddied, eithr gogonedded Dduw yn yr enw hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond peidiwch bod â chywilydd os ydych chi'n dioddef am fod yn Gristion — dylech ganmol Duw am i chi gael y fraint o'i gynrychioli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bydd i rywun ddioddef fel Cristion, ni ddylai gywilyddio, ond gogoneddu Duw trwy'r enw hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond os fel Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn;