1 Peter 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr amser a ddoeth, y bydd rraid ir farn ddechre ar dy Dyw. Ac o dydiw yn gyntaf yn dechre arnam ni, pa ryw ddiwed a fydd ir rrai ni choyliant evengil Ddyw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr amser yw i ddechreu o’r farn, oddiwrth dŷ Dduw; ac os yn gyntaf oddiwrthym ni, pa beth fydd diwedd y rhai sy’n anufuddhau i Efengyl Dduw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dyma’r adeg i’r farn i ddechrau gyda thŷ Dduw, ond os gyda ni’n gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy’n anghredu efengyl Duw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys daeth yr amser i ddechrau o'r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n bryd i'r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy'r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni'n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i'r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'n bryd i'r farn ddechrau, a dechrau gyda theulu Duw. Ac os gyda ni yn gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy'n anufudd i Efengyl Duw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae yn amser i'r farn ddechreu gyda thŷ Dduw; ac os yn gyntaf gyda ni, pa beth fydd diwedd y rhai sydd yn anufuddhâu i Efengyl Duw?