1 Peter 4:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hynny gwnaed y rrai sy yn goddef ar ol wollys Dyw, ymroi yddo ef eu heneiddiau trwy wneuthyr yn dda, megis ir creawd y r ffyðlon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly hefyd y rhai sy’n dioddef yn ol ewyllys Duw, i Greawdwr ffyddlawn gorchymynont eu heneidiau trwy wneuthur yr hyn sy dda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, cyflwyned y rhai sy’n dioddef yn ôl ewyllys Duw eu heneidiau i Greawdwr ffyddlon trwy wneuthur daioni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os dych chi'n dioddef am mai dyna ewyllys Duw, dylech ymddiried eich hunain i ofal y Duw ffyddlon wnaeth eich creu chi, a dal ati i wneud daioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, bydded i'r rhai sy'n dioddef yn l ewyllys Duw ymddiried eu heneidiau i'r Creawdwr ffyddlon, gan wneud daioni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly hefyd bydded i'r rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw roddi gofal eu heneidiau i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda.