1 Peter 4:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans digon ydyw y ni dreulio o honom yr amser aeth heibio or enioes, ar ol trachwāt y cenhedloeð, yn rrodio mewn drythyllwch, trachwantay, meddtod, glothineb, ymyved, a ffiaidd addoli‐delway.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys digon yw’r amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, gwin-llydrwydd, cyfeddach, diotta, ac erchyll eulun-addoliadau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys digon yr amser a aeth heibio i gyflawni dymuniad y cenhedloedd, gan rodio mewn anlladrwydd, blysiau, gwinwleddoedd, cyfeddach, diota, ac eilun-addoliaeth anfad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae'r paganiaid yn mwynhau ei wneud — byw'n anfoesol yn rhywiol a gadael i'r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy'n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys digon yr amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, pan y rhodiasom mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, gloddestau, cyfeddach, a ffiaidd eilun‐addoliadau;