1 Peter 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans ir mwyn hynny y pregethwyd yr evengil ir meirw hevyd, mal y gellid y cyfyrgolli hwynt, ar rann dynion, yn y cnawd, eithyr y gellynt fyw ar rann Ddyw yn yr ysbryd. Yr Epistol ar y sul gwedy yr Derchavael.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys er mwyn hyn, i’r meirw hefyd y pregethwyd, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond y byddent byw yn ol Duw yn yr yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys i hyn y cyhoeddwyd yr efengyl i’r meirw hefyd, fel wedi eu barnu yn y cnawd yn ôl dynion, y byddont byw yn yr ysbryd yn ôl Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i'r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i'r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi eu cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw'n cael byw gyda Duw drwy'r Ysbryd!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r diben hwn y pregethwyd yr Efengyl i'r meirw hefyd; er mwyn iddynt er cael eu barnu yn y cnawd fel y bernir pawb fyw yn yr ysbryd fel y mae Duw yn byw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys i'r dyben hwn yr efengylwyd hyd yn nod i'r meirw, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond byw yn ol Duw yn yr yspryd.