1 Peter 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymlaen pob peth bid cariad twym yn yn ych plith: can ys cariad a guddia liaws pechoday.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O flaen pob peth, byddwch a’ch cariad tuag at eich gilydd yn llwyr-frydig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn flaenaf oll, byddwch wresog yn eich cariad at eich gilydd, canys y mae cariad yn cuddio lliaws o bechodau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o flaen pob peth, yn wresog yn eich cariad tu ag at eich gilydd, canys cariad sydd yn gorchuddio lliaws o bechodau;