1 Peter 5:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
IR henaduriaid sy yn ych plith, yr ytolygaf finau sy hevyd henadur a thyst dyoddefiadeu Christ, a chyfrannawc hevyd or gogoniant a eglurir rrac llaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr henuriaid yn eich plith, gan hyny, a gynghoraf, a mi yn gydhenuriad a thyst o ddioddefiadau Crist, ac yn gyfrannog hefyd o’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio, porthwch braidd Duw y sydd yn eich plith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cynghori yr wyf, felly, yr henuriaid yn eich plith, fel cyd-henuriad a thyst o ddioddefiadau’r Crist, un sydd hefyd yn gyfrannog o’r gogoniant sydd i’w ddatguddio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o'r gogoniant a ddatguddir:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr henuriaid gan hynny yn eich plith yr wyf yn eu cynghori — yr hwn wyf gyd‐henuriad a thyst o ddyoddefiadau Crist, yr hwn wyf hefyd gyfrannog o'r Gogoniant ar fedr ei ddadguddio,