1 Peter 5:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A Dyw avvdur pob gras, rrwn an galwodd ni yw tragwyðol ’ogoniant trwy Christ Iesu, wedy darffo ywch oddeu ychydic, ach gwnel yn perffaith, ach cadarnhao, ach cryfhao, ac ach sicerhao.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Duw’r holl ras, yr Hwn a’ch galwodd i’w dragywyddol ogoniant yng Nghrist, pan am ychydig y dioddefasoch, Ei hun a’ch perffeithia, a’ch cadarnha, a’ch cryfha.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, ei hun a’ch cyweiria, a’ch cadarnha, a’ch nertha, a’ch sefydla, wedi dioddef ohonoch dros ychydig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Duw pob grâs yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, wedi i chwi ddyoddef am ychydig, efe ei hun a'ch adfera, a'ch cadarnhâ, a'ch nertha.