1 Peter 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyd a Sylvanus brawd ffyddlon ywch, im tyb i, y ddysc crifenais ar ychydic, dan ych cynghori, a thystlauthu mayr gwir ras Dyw ydiw hwn, y ddych yn sevyll yntho,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gyda Silfanus, y ffyddlawn frawd fel y’i cyfrifaf, yr ysgrifenais attoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw wir ras Duw; ynddo ef sefwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ysgrifennais atoch mewn ychydig eiriau drwy law Silfanus, brawd ffyddlon, fel y credaf, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir ras Duw. Sefwch ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn l fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddi-sigl ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gyda Silfanus, y brawd ffyddlawn, fel y cyfrifaf ef, yr ysgrifennaf atoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir râs Duw; sefwch ynddo.