1 Peter 5:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid fal rrai a fynnon vod yn arglwyði ar tretad Dyvv, eithr fal y galloch fod yn siampl ir ddiadell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid megis yn arglwyddiaethu ar y rhannau a ymddiriedwyd i chwi, eithr gan fyned yn esamplau i’r praidd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid ychwaith fel rhai’n tra-arglwyddiaethu ar y rhai sydd dan eu gofal, ond gan fod yn batrwm i’r praidd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain trwy fod yn esiampl dda iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid fel yn arglwyddiaethu ar y rhai a ymddiriedwyd i'ch gofal, eithr gan fod yn esiamplau i'r praidd.