1 Peter 5:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ir ymddangoso y pen bigael, cael a wnewch goron ddilwgr y gogoniant. Yr Epistol y iij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ymddangos o’r Pen-Bugail cewch anniflannedig goron y gogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ymddangoso’r Pen-bugail, cewch dderbyn. coron anniflanedig y gogoniant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ymddangoso'r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr amlygir y Pen‐bugail, chwi a dderbyniwch anniflanedig Goron y Gogoniant.