1 Peter 5:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ymostyngwch achos hyn tann al’uoc law Dyw, mal y gallo ych dyrchafu pan ddel amser,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gostynger chwi, gan hyny, dan rymus law Duw, fel y’ch dyrchafo chwi yn yr iawn amser,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymostyngwch, gan hynny, dan nerthol law Duw, fel y’ch dyrchafo pan ddelo’r adeg,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymostyngwch gan hynny dan rymus law Duw, fel y'ch dyrchafo chwi mewn amser cyfaddas,