1 Samuel 1:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a'm cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i'th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i'r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD holl-bwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a peidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i'r ARGLWYDD am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tyngodd adduned a dweud, "O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio 'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth."