1 Samuel 1:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a'i dug ef i dŷ yr ARGLWYDD yn Seilo: a'r bachgen yn ieuanc.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tarw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i du375?'r ARGLWYDD yn Seilo.