1 Samuel 10:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef, ac a'i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a'th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl e, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Samuel ffiol o olew a'i dywallt dros ei ben, a'i gusanu a dweud, "Onid yw'r ARGLWYDD yn d'eneinio'n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch? A dyma'r arwydd fod yr ARGLWYDD wedi d'eneinio'n dywysog ar ei etifeddiaeth: