1 Samuel 10:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio'r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?” “I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd ewythr Saul iddo ef a'i was, "Ymhle y buoch?" Atebodd, "Yn chwilio am yr asennod; ac wedi inni fethu eu gweld, aethom at Samuel."