1 Samuel 10:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi heddiw a wrthodasoch eich DUW, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a'ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’ “Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond heddiw yr ydych yn gwrthod eich Duw, a fu'n eich gwaredu o'ch holl drueni a'ch cyfyngderau, ac yn dweud wrtho, "Rho inni frenin." Yn awr, felly, safwch yn rhengoedd o flaen yr ARGLWYDD yn l eich llwythau a'ch tylwythau.'"