1 Samuel 10:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i'w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan ei oddi wrthyf heddiw, cei ddau ddyn wrth fedd Rachel yn Selsach ar ffin Benjamin, a dywedant wrthyt fod yr asennod yr aethost i'w ceisio wedi eu cael, a bod dy dad wedi rhoi heibio fater yr asennod, ac yn poeni amdanoch chwi ac yn dweud, 'Beth a wnaf am fy mab?'