1 Samuel 10:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A'r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo'r brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Samuel, "A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo." Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, "Hir oes i'r brenin!"