1 Samuel 10:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a'i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a'i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i'w dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl yr holl drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref.