1 Samuel 10:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y'th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel — un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win.