1 Samuel 10:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar ôl hynny y deui i fryn DUW, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i'r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o'r uchelfa, ac o'u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo.