1 Samuel 10:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dos i waered o'm blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud."