1 Samuel 11:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Saul, "Ni roddir neb i farwolaeth ar y dydd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ennill y fath fuddugoliaeth heddiw yn Israel."