1 Samuel 11:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Nahas yr Ammoniad, "Ar un amod y gwnaf gytundeb chwi bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan."