1 Samuel 11:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a'n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, "Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat."