1 Samuel 11:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a'u drylliodd, ac a'u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i'w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, "Pwy bynnag na ddaw allan ar l Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen." Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.