1 Samuel 12:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a'i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os byddwch yn ofni'r ARGLWYDD, ac yn ei addoli ef ac yn ufuddhau iddo heb wrthryfela yn erbyn ei orchymyn, ac os byddwch chwi a'r brenin a osodir arnoch yn dilyn yr ARGLWYDD eich Duw, popeth yn dda.