1 Samuel 12:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy fyth o ddrwg drwy ofyn am frenin.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr holl bobl wrth Samuel, "Gwedda ar yr ARGLWYDD dy Dduw ar ein rhan, rhag inni farw, oherwydd yr ydym wedi ychwanegu at ein holl bechodau y drwg hwn o geisio inni frenin."