1 Samuel 12:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi; tystiolaethwch i'm herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a'i talaf i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi ei eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ychen rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fi; tystiwch yn f'erbyn gerbron yr ARGLWYDD a'i eneiniog: a gymerais ych unrhyw un? A gymerais asyn unrhyw un? A dwyllais rywun? A orthrymais rywun? A dderbyniais gil-dwrn oddi wrth rywun i gau fy llygaid? Dewch thystiolaeth, ac fe'i rhoddaf yn l."