1 Samuel 12:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n ateb, “Na, dwyt ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedasant, "Nid wyt ti wedi'n twyllo na'n gorthrymu, nac wedi cymryd dim gan neb."