1 Samuel 12:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi i Jacob ddyfod i'r Aifft, a gweiddi o'ch tadau chwi ar yr ARGLWYDD, yna yr ARGLWYDD a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o'r Aifft, ac a'u cyfleasant hwy yn y lle hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Jacob ddod i lawr i'r Aifft, gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD; anfonodd yntau Moses ac Aaron, a daethant hwy 'ch hynafiaid allan o'r Aifft a'u rhoi i fyw yn y lle hwn.