1 Samuel 13:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi darfod iddo offrymu'r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd yn gorffen offrymu'r poethoffrwm, dyna Samuel yn cyrraedd, ac aeth Saul allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.