1 Samuel 13:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac yn dewis hwnnw i arwain ei bobl am dy fod ti heb gadw ei orchmynion.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gu373?r yn l ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti."