1 Samuel 13:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o'r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel. Roedd y Philistiaid eisiau rhwystro'r Hebreaid rhag gwneud cleddyfau a gwaywffyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, "Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon."