1 Samuel 13:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a'r bobl eraill a anfonodd efe bawb i'w babell ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n dewis tair mil o ddynion Israel i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewisodd Saul dair mil o Israeliaid; yr oedd dwy fil gydag ef yn Michmas ac ucheldir Bethel, a mil gyda Jonathan yn Gibea Benjamin; anfonodd weddill y bobl adref.